Rhys Gwynfor - Bydd Wych

Описание к видео Rhys Gwynfor - Bydd Wych

Fideo i'r gân Bydd Wych wedi'w saethu a'i olygu gan Dafydd Nant o FfotoNant - http://www.ffotonant.com

https://t.co/6lb5tJsqLJ?amp=1

Bydd Wych

Dwi’n meddwl fod o’n dipyn o foi.
Dwi’n meddwl fod o’n ddigon o sioe.
Bob dydd mewn siwt a chôt rhag y glaw,
Cap stabal ac esgidiau glaw.

Bydd wych, bydd dda, bo’n haf neu aeaf rhyngthom ni, rhyngthom ni.
Bydd wych, bydd dda, bo’n law neu hindda rhyngthom ni, rhyngthom ni.

Bob nos ma’n cerdded mewn yr un pryd.
Pob nos i mewn i’w gornel fach glud o’r byd.
Mae’n cerdded mewn fel meistr i’r cylch,
I’r Tarw ers i brisiau’r Llew fynd yn uwch.

Bydd wych, bydd dda, bo’n haf neu aeaf rhyngthom ni, rhyngthom ni.
Bydd wych, bydd dda, bo’n law neu hindda rhyngthom ni, rhyngthom ni.

A thrwy holl drychinebau ‘i oes, roedd ‘na hen dynnu coes.
Dim arwydd o’r galar yn ei lais, dim owns o’r loes.
Ar bob nos Sadwrn fawr roedd o’n gawr i mi’n ei gornel a’i gap ar y bwrdd.
A’i lygaid glas yn rhoi ias wrth ei deu’ti wrth y cwmni oedd yno i'w gwrdd.

Bydd wych, bydd dda, bo’n haf neu aeaf rhyngthom ni, rhyngthom ni.
Bydd wych, bydd dda, bo’n law neu hindda rhyngthom ni, rhyngthom ni.

Комментарии

Информация по комментариям в разработке