Y GÊM LAWN: Y Bala v Y Fflint | Cymru Premier JD | Sylwebaeth Gymraeg

Описание к видео Y GÊM LAWN: Y Bala v Y Fflint | Cymru Premier JD | Sylwebaeth Gymraeg

Pêl-droed JD Cymru Premier byw rhwng Y Bala a'r Fflint - C/G 7.45 ⚽

Rhagolwg:

Rhwydodd Alex Downes ddwywaith dros ei glwb newydd nos Wener diwethaf i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i’r Bala gartref yn erbyn Llansawel.

Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Y Bala’n y gynghrair ers mis Mawrth yn dilyn rhediad o bum gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 4, colli 1).

Mae hi wedi bod yn ddechrau rhwystredig i’r Fflint ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair, yn colli 5-1 yn y gwpan yn erbyn YSN, cyn colli 2-1 gartref yn erbyn Met Caerdydd, a cholli 4-1 gartref yn erbyn y Seintiau eto nos Wener diwethaf.

A bydd hi’n dasg anodd unwaith yn rhagor nos Wener yma yn erbyn Y Bala, sydd heb golli yn eu 10 gornest flaenorol yn erbyn Y Fflint (ennill 9, cyfartal 1).

Комментарии

Информация по комментариям в разработке