Y GÊM LAWN | Cei Connah 0-2 NK Bravo | Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa

Описание к видео Y GÊM LAWN | Cei Connah 0-2 NK Bravo | Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa

Cei Connah achosodd brif sioc yr wythnos ar ôl trechu NK Bravo o Slofenia, oedd yn ffefrynnau clir cyn y cymal cyntaf nos Iau. 
Roedd hi’n ddi-sgôr yn Ljubljana am 83 munud tan i’r eilydd Elliott Dugan benio yn erbyn trawst, a’r eilydd arall Ben Maher yn ymateb yn gynt na neb i blannu foli i gefn y rhwyd yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd ar ôl gadael Caernarfon dros yr haf. 
Mae’r Nomadiad yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 21 gêm (ennill 5) a chamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20. 
Mae NK Bravo o Ljubljana, sef prif ddinas Slofenia, yn glwb gymharol newydd ffurfiodd yn 2006, ac ar ôl dringo’r cynghreiriau yn y degawd diwethaf, dyma eu hymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop. 
Mae gan reolwr Cei Connah, Neil Gibson atgofion melys o chwarae’n Ewrop ar ôl sgorio gôl dyngedfennol wrth i Brestatyn guro Liepajas Metalurgs o Latfia yn 2013. 
Ar ôl colli eu chwe rownd flaenorol yn Ewrop, mae’r gobeithion yn uchel i’r Nomadiaid fydd yn targedu eu buddugoliaeth gyntaf dros ddau gymal ers curo Kilmarnock yn 2019. 
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Nantporth, Bangor ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu HŠK Zrinjski Mostar (Bosnia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa. 
Mae gan HŠK Zrinjski Mostar lwyth o brofiad yn Ewrop, ac ar ôl dod yn agos ar sawl achlysur fe gyrhaeddon nhw rownd y grwpiau am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf gan gystadlu yn yr un grŵp ag Aston Villa, AZ a Legia Warszawa yng Nghyngres Europa.

Комментарии

Информация по комментариям в разработке