Y GÊM LAWN: Caernarfon (0) 0-5 (11) Legia Warsaw | Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA

Описание к видео Y GÊM LAWN: Caernarfon (0) 0-5 (11) Legia Warsaw | Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA

PÊL-DROED BYW: Caernarfon (0) v (6) Legia Warsaw 


Nantporth, Bangor – Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2024/25 


Ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, mae’n ymddangos fel bod y freuddwyd ar fin dod i ben i glwb pêl-droed Caernarfon. 


Roedd hi’n fuddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn Crusaders o Belfast yn y rownd ragbrofol gyntaf, ond roedd clwb o safon Legia Warszaw wastad am fod yn wrthwynebwyr caled i’r Cofis. 


Legia Warszaw yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Gwlad Pwyl, ac mae eu torf yn adnabyddus fel rhai angerddol a thanllyd. 


Mae’r clwb o brif ddinas Gwlad Pwyl wedi chwarae dros 250 o gemau’n Ewrop gan gyrraedd rownd y grwpiau ar saith achlysur ers 2011, a churo timau fel Aston Villa, Leicester City, Sporting Lisbon a Celtic yn ddiweddar. 


Er hynny, fe ddechreuodd Caernarfon yn gadarn nos Iau yn stadiwm gwag y Stadion Wojska Polskiego, gyda’r dorf wedi eu gwahardd o’r gêm oherwydd trafferthion diweddar. 


Ac yn yr 20 munud agoriadol fe allai’r Cofis fod wedi mynd ar y blaen gyda Daniel Gosset, Zack Clarke a Darren Thomas i gyd yn methu’r targed gydag ymdrechion o safloedd da. 


Daeth y gôl agoriadol i Legia o gic gornel wedi 22 munud gyda’r Sbaenwr, Marc Gual yn gwasgu peniad heibio’r golwr ar y postyn pellaf, ac er i Stephen McMullan gael llaw at y bêl roedd y llimanwr yn grediniol fod y bêl wedi croesi’r linell.  


Parhaodd y Cofis y frwydro ond funud cyn yr egwyl, fe fethodd McMullan a delio gyda chroesiad syml, ac ar ôl gollwng y bêl fe ddisgynnodd hi’n boenus dros y linell, a Chaernarfon methu credu sut eu bod yn colli 2-0 ar yr egwyl. 


Gyda cynffonnau’r Caneris i lawr fe fanteisiodd Legia Warsawa a sgoriodd Marc Gual ddwy gôl gynnar yn yr ail hanner i gwblhau ei hatric. 


Ar ôl methu cic o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner, fe lwyddodd blaenwr Slofenia, Blaž Kramer i wneud yn iawn am ei gam dri munud yn ddiwddarach gan droi’n hyfryd sgorio’r bumed i Legia. 


Ond yr olaf oedd yr orau i Legia Warszaw, yn eiliadau ola’r gêm wrth i Claude Gonçalves grymanu ergyd odidog o du allan i cwrt i gornel ucha’r rhwyd a’i gwneud hi’n 6-0 ym mhrif ddinas Gwlad Pwyl. 


Roedd y rhwystredigaeth yn amlwg yn sylwadau y rheolwr Richard Davies wedi’r gêm, oedd yn cyfaddau nad oedd y canlyniad yn sioc, ond fod ei chwaraewyr wedi haeddu mwy yn dilyn eu perfformiad, ac mae camgymeriadau gwirion oedd wedi profi’n gostus yn y pen draw. 


Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar nos Iau, 1 Awst gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu unai Brøndby IF (Denmarc) neur KF Llapi 1932 (Cosofo) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA.

Комментарии

Информация по комментариям в разработке