Pwdin Reis - Paid Rhoi'r Botel i Fi (Yn Fyw / Live) | Sesiwn Fawr Dolgellau 2022

Описание к видео Pwdin Reis - Paid Rhoi'r Botel i Fi (Yn Fyw / Live) | Sesiwn Fawr Dolgellau 2022

Dyma fand sy’ wedi sefydlu ers rhai blynyddoedd bellach. Grwp o Orllewin Cymru sy’n gyfuniad o rockabilly pur, Jump Jive a Jazz – gyda’r cerddorion profiadol yn troi’u dwylo’n grefftus at wahanol genres o gerddoriaeth.

Gŵyl gerddorol flynyddol Geltaidd a rhyngwladol ydi Sesiwn Fawr Dolgellau sydd wedi tyfu i fod yn un o brif wyliau cerddorol Ewrop. Eleni, gwelwyd miloedd yn dychwelyd i’r ŵyl werin boblogaidd i nodi pen-blwydd yr ŵyl yn 30 oed. Mae’r ŵyl gerddoriaeth ddwyieithog yn denu rhai o artistiaid mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal ag artistiaid o bob rhan o’r byd. Perfformiodd 58 o artistiaid ar draws 9 llwyfan mewn lleoliadau amrywiol ledled Dolgellau eleni – gan gynnwys Yws Gwynedd, N’famady Kouyate, Tara Bandito, NoGood Boyo, Truckstop Honeymoon, The Trials of Cato a band gwerin byd-enwog o’r Alban - Skerryvore.

#PwdinReis #SesiwnFawrDolgellau

Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwasga'r botwm 'Subscribe'

TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c

Комментарии

Информация по комментариям в разработке