Y GÊM LAWN | Caernarfon v Met Caerdydd | Rownd Gynderfynol Gemau Ail Gyfle Cymru Premier JD

Описание к видео Y GÊM LAWN | Caernarfon v Met Caerdydd | Rownd Gynderfynol Gemau Ail Gyfle Cymru Premier JD

PÊL-DROED BYW: Caernarfon v Met Caerdydd | Rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cymru Premier JD ⚽️

Bydd enillwyr y gemau ail gyfle yn ymuno â'r Seintiau Newydd, Cei Connah a'r Bala yn rowndiau rhagbrofol Ewrop dros yr haf. C/G 7.45.

Rhagolwg:

Ar nos Wener, bydd Caernarfon yn croesawu Met Caerdydd i’r Oval yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am y trydydd tro. 

Chwaraeodd Caernarfon yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2018/19 gan golli 3-2 ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol. 

Aeth y Cofis gam ymhellach yn nhymor 2020/21, yn ennill yn Y Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli 5-3 gartref yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol. 

Yna yn 2021/22, o’r diwedd fe enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle drwy guro Met Caerdydd (1-0) ac yna’r Fflint (2-1 w.a.y) ar yr Oval. 

Ond yn anffodus i’r Caneris, 2021/22 oedd yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop (oherwydd safle Cymru ar restr detholion UEFA), ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Cofis yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd. 

Dyma’r chweched tro i Met Caerdydd gyrraedd y gemau ail gyfle, ond dyw’r myfyrwyr ond wedi ennill y gystadleuaeth unwaith.  

Ar ôl esgyn i’r uwch gynghrair yn haf 2016 fe gyrhaeddodd Met rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith yn olynol, yn colli yn erbyn Bangor yn 2017, Derwyddon Cefn yn 2018, cyn curo’r Bala ar giciau o’r smotyn yn 2019 a chyrraedd Ewrop am yr unig dro yn eu hanes. 

Ers hynny mae Met Caerdydd wedi colli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yn 2022 (vs Caernarfon) ac eto llynedd yn 2023 (vs Hwlffordd). 

Mae Met Caerdydd wedi chwarae mewn dwy rownd gynderfynol yn barod eleni, ond wedi colli’r ddwy yn erbyn tîm dan 21 Abertawe (Cwpan Nathaniel MG) a’r Seintiau Newydd (Cwpan Cymru). 

Momentwm ydi’r gair hollbwysig wrth drafod y gemau ail gyfle, a teg dweud bod y ddau dîm yma’n brin o hwnnw. 

Gorffennodd Caernarfon y tymor gyda rhediad o bedair gêm heb ennill (colli 3, cyfartal 1), a’r unig bwynt yn dod o’u gêm ddiwethaf gartref yn erbyn 10-dyn Y Bala. 

Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i griw Met Caerdydd hefyd, sydd wedi colli wyth o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Yr unig gysur i Ryan Jenkins, yw mae yn erbyn Caernarfon y daeth eu hunig fuddugoliaeth yn y gynghrair ers mis Rhagfyr. 

Enillodd Met Caerdydd o 2-1 ar yr Oval ym mis Mawrth, ond cyn hynny roedd y Cofis wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn y myfyrwyr (ennill 8, cyfartal 2).

#JDCymruPremier

Комментарии

Информация по комментариям в разработке