Fideo 4 PIP - Sut mae PIP yn cael ei ddyfarnu
Sut mae PIP yn cael ei ddyfarnu. Penderfyniadau PIP, Y rhan bywyd bob dydd, Y rhan symudedd, gwneud penderfyniadau PIP, Adolygiadau PIP, Anghydfod penderfyniadau PIP, Ailystyriaeth Gorfodol, Apeliadau, am fwy o wybodaeth ewch i gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip
-------------------------------------------------------------------------------------
Ni allwn ymateb i ymholiadau ar YouTube.
Ewch i GOV.UK i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol.
Transcription:
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Sut mae PIP yn cael ei ddyfarnu.
Os cewch asesiad, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich asesu ar yr holl weithgareddau yn y rhan bywyd bob dydd a'r rhan symudedd. Mae'r ddwy ran yn cael eu sgorio ar wahân. I gael PIP mae angen i chi sgorio o leiaf 8 pwynt ar y naill ran neu'r llall. Yn dibynnu ar eich sgôr, efallai y byddwch yn cael un rhan o PIP, efallai y cewch y ddwy ran, neu ddim o'r naill neu'r llall.
Ar gyfer y rhan bywyd bob dydd, ni fyddwch yn cael PIP os ydych yn sgorio o dan 8 pwynt. Os ydych yn sgorio rhwng 8 ac 11 pwynt byddwch yn cael y gyfradd safonol, ac os ydych yn sgorio 12 pwynt neu fwy, byddwch yn cael y gyfradd uwch. Ar gyfer y rhan symudedd, ni fyddwch yn cael PIP os ydych yn sgorio o dan 8 pwynt. Os ydych yn sgorio rhwng 8 ac 11 pwynt byddwch yn cael y gyfradd safonol, ac os ydych yn sgorio 12 pwynt neu fwy, byddwch yn cael y gyfradd uwch.
Ar ôl asesiad, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn anfon eu hadroddiad i'r DWP. Yna bydd swyddog gwneud penderfyniadau PIP yn ystyried yr holl wybodaeth yn eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi', eich tystiolaeth ategol ac adroddiad y gweithiwr iechyd proffesiynol.
Yna bydd y swyddog gwneud penderfyniadau PIP yn ysgrifennu atoch i esbonio eu penderfyniad ar eich cais PIP. Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych faint o bwyntiau a gawsoch ar gyfer pob gweithgaredd yn yr asesiad. Os ydych yn cael PIP, fel arfer mae'n cael ei dalu bob pedair wythnos. Mae dyfarniadau PIP fel arfer am gyfnod penodol o amser. Rydym yn adolygu dyfarniadau PIP i sicrhau eich bod yn dal i gael y swm cywir o PIP cyn diwedd cyfnod y dyfarniad, neu ar unrhyw adeg rydych yn dweud wrthym fod eich anabledd neu'ch cyflwr iechyd yn gwella neu'n gwaethygu. Efallai y bydd angen i chi gael asesiad fel rhan o'r adolygiad dyfarniad.
Mae'r llythyr dyfarnu PIP yn dweud wrthych pryd y bydd eich dyfarniad yn dod i ben ac a fydd yn cael ei adolygu. Gall dyfarniadau PIP gael eu hadolygu ar ôl 12 mis, neu unrhyw bryd hyd at 10 mlynedd. Os yw'ch anabledd neu'ch cyflwr iechyd yn newid mewn unrhyw ffordd, gallai'r swm o PIP y byddwch yn ei gael fynd i fyny, mynd i lawr, aros yr un fath neu stopio.
Cyn adolygiad PIP, byddwch yn cael llythyr a'r ffurflen 'Adolygiad o ddyfarniad - sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi'. Rhaid i chi lenwi'r ffurflen adolygu a'i dychwelyd o fewn un mis. Bydd eich taliadau PIP yn parhau yn ystod y broses adolygu. Os nad ydych yn deall ein penderfyniad ar eich cais am PIP, neu eich adolygiad PIP, yna gallwch chi, neu rywun sydd â'r awdurdod i weithredu ar eich rhan, ofyn i ni esbonio'r penderfyniad rydym wedi'i wneud.
Os nad ydych yn cytuno â'n penderfyniad ar eich cais am PIP neu adolygiad o ddyfarniad, gallwch ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto. Gelwir hyn yn Ailystyriaeth Orfodol. Fel arfer mae gennych fis o'r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad i ofyn am Ailystyriaeth Orfodol. Gallwch ddarparu mwy o wybodaeth os credwch nad yw wedi cael ei hystyried.
Pan fyddwn wedi edrych ar ein penderfyniad eto, byddwch yn cael llythyr gyda'n penderfyniad Ailystyriaeth Orfodol. Byddwn yn dweud wrthych beth rydym wedi'i benderfynu a pham. Weithiau rydym yn newid ein penderfyniad, ac weithiau mae'n aros yr un fath. Os ydych yn parhau i anghytuno â'r penderfyniad Ailystyriaeth Orfodol, hyd yn oed os yw wedi newid yn rhannol, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad PIP, bydd tribiwnlys annibynnol yn edrych ar y penderfyniad eto. Weithiau maent yn newid y penderfyniad, ac weithiau mae'n aros yr un fath.
I gael gwybod mwy am PIP, ewch i wefan Taliad Annibyniaeth Personol ar gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip.
Ystyriwch y wybodaeth ar gov.uk cyn gwneud cais am PIP. Gallwch hefyd gael help a chyngor gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth neu eich sefydliadau cymorth lleol. Mae proses arbennig ar gyfer pobl sy'n agosáu at ddiwedd oes. I ddarganfod mwy, ewch i gov.uk/budd-daliadau-os-ydych-yn-derfynol-wael. Canllaw yn unig yw'r fideo hwn.
Информация по комментариям в разработке