Fideo 3 PIP - Beth allwch chi ei ddisgwyl mewn asesiad PIP
Sut mae PIP yn cael ei ddyfarnu. Gwneud penderfyniadau PIP, Y rhan bywyd bob dydd, Y rhan symudedd, gwneud penderfyniadau PIP, Adolygiadau PIP, Anghydfod penderfyniadau PIP, Ailystyriaeth Gorfodol, Apeliadau, am fwy o wybodaeth ewch i gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip
Ni allwn ymateb i ymholiadau ar YouTube.
Ewch i GOV.UK i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol.
Transcription:
Taliad Annibyniaeth Personol. PIP. Beth gallwch ei ddisgwyl mewn asesiad PIP. Ar ôl gwneud cais am PIP, mae'r mwyafrif o bobl yn derbyn ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi'. Pan fydd DWP yn cael eich ffurflen, rydym yn ei hanfon gyda'ch tystiolaeth ategol at weithwyr iechyd proffesiynol, sy'n cynnal asesiad ar ran y DWP. Maent yn penderfynu pa fath o asesiad sydd orau.
Bwriad yr asesiad yw sicrhau eich bod yn cael y lefel gywir o PIP. Mae anableddau a chyflyrau iechyd yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol adegau, felly mae'r asesiad yn ystyried sut rydych yn cyflawni gweithgareddau ar ddiwrnodau da a drwg.
Mewn asesiad, byddant yn edrych ar faint o gymorth neu’r math o gymorth rydych ei angen i wneud gweithgareddau dyddiol, er enghraifft, y cymhorthion a'r offer rydych yn eu defnyddio, neu os ydych angen rhywun i'ch helpu neu gi cymorth. Mae gwahanol fathau o asesiad. Os cewch eich gwahodd i asesiad wyneb yn wyneb, bydd fel arfer yn y ganolfan asesu agosaf i le rydych yn byw. Bydd y llythyr gwahoddiad yn nodi lleoliad a sut i’w cyrraedd.
Yn ystod yr asesiad byddant yn ysgrifennu adroddiad i’r swyddog gwneud penderfyniadau PIP. Byddant yn edrych ar sut rydych yn cyflawni'r gweithgareddau bywyd dyddiol a symudedd. Nid yw'n archwiliad meddygol. Byddant yn gofyn cwestiynau ac efallai y byddant yn gofyn i chi berfformio symudiadau. Fel arfer mae'n cymryd tua awr. Gallwch ddod â rhywun gyda chi. Gallwch hefyd ofyn am gyfieithydd.
Ar gyfer asesiad ffôn, byddant yn cwblhau'r asesiad dros y ffôn. Byddwch yn cael llythyr apwyntiad yn nodi pryd y byddant yn cysylltu â chi.
Gwneir asesiad fideo gan ddefnyddio 'facetime' neu 'WhatsApp'. Byddwch yn cael llythyr yn nodi yr amser y byddant yn cysylltu, pa offer rydych ei angen, a sut i gael mynediad i'r ddolen fideo. Mae yna hefyd adolygiadau papur. Weithiau gallwn wneud penderfyniad ar eich cais heb i chi fynychu asesiad, os oes digon o wybodaeth ar eich ffurflen a thystiolaeth ategol. Os byddwn yn eich gwahodd i gael asesiad, mae'n bwysig eich bod yn mynychu'r apwyntiad neu'n derbyn yr alwad, neu efallai na fyddwn yn gallu dyfarnu PIP.
Yn yr asesiad, mae dau fath o weithgaredd y bydd y gweithwyr iechyd proffesiynol yn edrych arnynt. Mae gweithgaredd bywyd dyddiol, sef bwyta, yfed neu baratoi bwyd, ymolchi a defnyddio'r toiled. Gwisgo a dadwisgo. Darllen a chyfathrebu. Rheoli eich meddyginiaethau neu driniaethau. Gwneud penderfyniadau am arian a chymdeithasu a bod o gwmpas pobl eraill.
Byddant hefyd yn edrych ar weithgareddau symudedd, sef gweithio allan llwybr a’i ddilyn, symud o gwmpas yn gorfforol, a gadael eich cartref. Mae gan bob gweithgaredd lefel gallu o'r enw 'disgrifyddion' i ddisgrifio sut rydych yn cyflawni'r gweithgaredd hwnnw. Mae gan bob disgrifydd sgôr. Mae eich sgôr yn adlewyrchu eich gallu i gyflawni'r gweithgaredd hwnnw'n ddiogel, dro ar ôl tro, i safon dderbyniol ac mewn amser rhesymol.
Efallai na fyddwch yn sgorio pwyntiau am rai gweithgareddau, oherwydd gallwch eu gwneud heb anhawster ac efallai y byddwch yn sgorio'r pwyntiau uchaf mewn gweithgareddau eraill oherwydd eich bod angen help. Mae'r enghraifft hon yn dangos y disgrifyddion a'r sgoriau ar gyfer paratoi bwyd. Os gallwch baratoi a choginio pryd syml heb gymorth, ni fyddwch yn sgorio unrhyw bwyntiau. Os ydych angen cymorth neu offer i allu paratoi neu goginio pryd syml, byddwch yn sgorio 2 bwynt.
Os na allwch goginio pryd syml gan ddefnyddio popty confensiynol ond gallwch wneud hynny gan ddefnyddio microdon, byddwch yn sgorio 2 bwynt. Os ydych angen anogaeth i baratoi neu goginio pryd syml, byddwch yn sgorio 2 bwynt. Os ydych angen goruchwyliaeth neu gymorth i baratoi neu goginio pryd syml, byddwch yn sgorio 4 pwynt.
Os na allwch baratoi neu goginio bwyd, byddwch yn sgorio 8 pwynt, sef yr uchafswm ar gyfer y gweithgaredd hwn. Rydych ond yn cael un sgôr ar gyfer pob gweithgaredd. Mae swyddog gwneud penderfyniadau y DWP yn cyfri'r sgôr ar gyfer gweithgareddau bywyd dyddiol a gweithgareddau symudedd ar wahân.
Mae cyfanswm sgôr pob rhan yn penderfynu a allwch gael PIP a faint y gallwch ei gael.
I gael gwybod mwy am PIP, ewch i Taliad Annibyniaeth Personol yn gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip. Ystyriwch y wybodaeth ar gov.uk cyn gwneud cais am PIP. Gallwch hefyd gael help a chyngor gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth neu eich sefydliadau cymorth lleol. Mae proses arbennig ar gyfer pobl sy'n agosáu at ddiwedd oes. I ddarganfod mwy, ewch i gov.uk/budd-daliadau-os-ydych-yn-derfynol-wael. Canllaw yn unig yw'r fideo.
Информация по комментариям в разработке