Tynged yr Iaith / The Fate of the Language Saunders Lewis

Описание к видео Tynged yr Iaith / The Fate of the Language Saunders Lewis

Tynged yr Iaith, Saunders Lewis - Y Ddarlith a ysbrydolodd Chwyldrad
Heddiw mae'r iaith Gymraeg, mewn sawl ffordd, yn ffynnu, gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, Addysg Cyfrwng Cymraeg hynod boblogaidd, S4C a Radio Cymru, a ‘Wlad Hen Wlad fy Nhadau’ yn bloeddio o'r torfeydd yng ngemau rygbi a phêl-droed Cymru.
Ni fyddai unrhyw un o'r rhain yma heddiw oni bai am araith yn 1962 gan Saunders Lewis, y bardd, dramodydd, hanesydd, beirniad llenyddol, a gweithredwr gwleidyddol oedd yn wreiddiol o Lerpwl.
Bu yn yr anialwch gwleidyddol ers 20 mlynedd pan, yn 69 oed, traddododd ddarlith radio o'r enw ‘The Fate of the Language’. Rhedodd waed siaradwyr Cymraeg yn oer gyda'i rybudd na fyddai'r iaith Gymraeg yn goroesi i'r 21ain ganrif heb weithredu chwyldroadol. Gallai iaith a ddatblygwyd yn soffistigedig ganrifoedd cyn bod y Saesneg yn bodoli farw o esgeulustod yn ein cenhedlaeth. Fe geryddodd y Cymry am fod mor wan wrth sefyll dros eu hiaith a'u diwylliant.
Ysbrydolodd yr hunllef frawychus ymateb.
Cefais i fy ysbrydoli gan y ddarlith tra yn y Coleg, ac rwyf wastad wedi meddwl y dylai mwy o bobl fod yn gyfarwydd â hi. Dysgais fawr ddim am Hanes Cymru yn yr ysgol, a chyflwynodd Tynged yr Iaith y maes yma i mi trwy gyfeirio at Y Ddeddf Uno, Y Llyfrau Gleision, Patagonia, a Thryweryn. Mae’r iaith ychydig yn ‘hen ffasiwn’ ac mae hi braidd yn hir, ac yn Gymraeg yn unig wrthgwrs. Rwyf felly wedi ei thalfyru, a defnyddio cyfieithiad G. Aled Williams i greu’r fidio yma, yn fy arddull amaturaidd, a gobeithiaf y bydd yn ysbrydoli pobl eraill fel yr gwnaeth i minnau.
Chris Evans
Cadeirydd Canolfan Gymraeg Saith Seren

‘The Fate of the Language’, Saunders Lewis - The Lecture that inspired a Revolution
Today the Welsh language, in many ways, is flourishing, and Wales gyda’r Welsh National Assembly, thriving Welsh Medium Education, S4C and Radio Cymru, and ‘Hen Wlad fy Nhadau’ roaring from the crowds at Wales rugby and football matches.
None of these would be here today were it not for a speech in 1962 by a Liverpool-born poet, dramatist, historian, literary critic, and political activist called Saunders Lewis.
He had been in the political wilderness for 20 years when, at 69 years old, he delivered a radio lecture entitled ‘The Fate of the Language’. The blood of Welsh speakers ran cold with his warning that without revolutionary action the Welsh language would not survive into the 21st century. A language that was developed and sophisticated centuries before English existed could die of neglect in our generation. He derided the Welsh people for being so weak in standing up for their language and culture.
The chilling nightmare inspired action.
I was inspired by the lecture while at College, and I have always thought that more people should be familiar with it. I learned almost nothing about Welsh History at school, and Tynged yr Iaith introduced this subject to me by referring to The Act of Union, The Blue Books, Patagonia, and Tryweryn. The language is a bit ‘old fashioned ’and it’s a bit long, and only in Welsh of course. I have therefore abridged it, and used the translation of G. Aled Williams to create this video, in my amateurish style, and I hope that it will inspire other people as he did for me.
Chris Evans
Chair Saith Seren Welsh Centre

Комментарии

Информация по комментариям в разработке