Saunders Lewis - Tynged yr Iaith 1/4

Описание к видео Saunders Lewis - Tynged yr Iaith 1/4

Darlith radio gan Saunders Lewis a ddarlledwyd gan y BBC ar 13 Chwefror 1962 oedd Tynged yr Iaith, ac un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru. Darlith Radio flynyddol y BBC ydoedd. Mae'n sôn am "frad Tryweryn", a dywedodd mai'r Gymraeg oedd yr "unig fater politicaidd ... werth i Gymro ymboeni ag ef". Roedd y ddarlith yn feirniadaeth llym ar arweinyddiaeth Gwynfor Evans Llywydd Plaid Cymru. Dadlodd fod angen plaid fyddai'n cefnogi pobl fel Eileen a Trefor Beasley a oedd yn brwydro dros y Gymraeg. Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu taliadau. Er bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd : "Fe ellir achub y Gymraeg", ac mai "Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo".

Canlyniad y ddarlith oedd esgor ar sefydlu Cymdeithas yr Iaith.

Yn ei lythyr at Saunders Lewis (dyddiedig 21 Gorffennaf 1963), dywed Owain Owain, '...hoffwn i chwi gael gwybod fod eich sgwrs radio yn dwyn ffrwyth ar ei milfed (os byw'r Gymraeg yn yr 21 Ganrif, i chwi mae'r diolch).'

PWRPAS ADDYSG AC ANFASNACHOL YN UNIG

Testun llawn PDF
http://cymdeithas.org/dadlwytho/tynge...

Testun llawn HTML
http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Iaith...

Y testun yn y fideo yw ganllaw.

Tynged yr Iaith - playlist ar YouTube
http://www.youtube.com/view_play_list...

Комментарии

Информация по комментариям в разработке